Home / News & insights / News / Cwestiynau’r cais am dystiolaeth ar gyfer darparu cyngor i Lywodraeth Cymru

Cwestiynau’r cais am dystiolaeth ar gyfer darparu cyngor i Lywodraeth Cymru

Read this page in English.

Cefndir

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) ym mis Mawrth 2016. Mae’n gosod targed ar gyfer 2050 i leihau allyriadau o leiaf 80% ac yn darparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer sefydlu dull cyllidebu carbon yng Nghymru.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru cyn diwedd 2018 yn gosod targedau interim mewn rheoliadau i leihau allyriadau ar gyfer 2020, 2030 a 2040, ynghyd â chyllidebau carbon pum mlynedd ar gyfer y cyfnodau 2016-2020 a 2021-2025.

Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi cael cais gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyngor ar y targedau allyriadau hyn ac mae’n gofyn am dystiolaeth i’w helpu yn y dasg honno.

Bydd y Pwyllgor yn darparu cyngor mewn dau gam:

  • Cam 1: Cyngor ar gyfrifyddu carbon a chynllunio cyllidebau carbon/targedau Cymru (Mawrth 2017)
  • Cam 2: Cyngor ar lefel yr uchelgais sydd yn y targedau a’r cyllidebau a sectorau lle mae cyfleoedd penodol i ddatgarboneiddio (Hydref 2017)

Mae’r Cais am Dystiolaeth hwn yn canolbwyntio ar y cyntaf o’r camau hyn. Bydd ymatebion i’r Cais hwn yn helpu’r Pwyllgor wrth iddo lunio ei gyngor i Lywodraeth Cymru, a gyhoeddir ym Mawrth 2017. Mae’r Cais hwn yn cynnwys cwestiynau sy’n berthnasol i’r Ddeddf, gan gynnwys y fframwaith cyfrifyddu allyriadau, cwmpas y targedau a rôl masnachu mewn allyriadau.

Ein cyngor dilynol ar lefel y targedau a’r cyllidebau fydd testun yr ail Gais am Dystiolaeth yn ddiweddarach yn 2017.

Ymateb i’r Cais am Dystiolaeth
Rydym yn argymell cyflwyno atebion byr a phwrpasol (h.y. 400 o eiriau ar y mwyaf am bob cwestiwn, ynghyd â dolenni at dystiolaeth ategol; ateb dim ond y cwestiynau hynny lle mae gennych arbenigedd penodol). Gallwn gysylltu i gael rhagor o fanylion os bydd yn briodol.

Byddai o gymorth os byddwch yn defnyddio’r profforma cwestiynau wrth ymateb ac yn anfon ymatebion drwy’r e-bost i: communications@theccc.gsi.gov.uk. Fel arall, os byddai’n well gennych bostio’ch ymateb, anfonwch ef i:

The Committee on Climate Change – Wales Call for Evidence,
7 Holbein Place,
Llundain SW1W 8NR

Y terfyn amser ar gyfer ymatebion yw 12 hanner dydd ar 6 Chwefror 2017.

Cyfrinachedd a diogelu data

Cyhoeddir ymatebion ar ein gwefan ar ôl y terfyn amser ar gyfer ymateb, ynghyd â rhestr o enwau neu sefydliadau a ymatebodd i’r Cais am Dystiolaeth.

Os ydych yn dymuno i’r wybodaeth a ddarparwch gael ei thrin yn gyfrinachol (ac nid cael ei chyhoeddi’n awtomatig), dywedwch hynny’n glir mewn ysgrifen wrth anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad. Byddai o gymorth os gallech egluro i ni pam rydych yn credu bod y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gyfrinachol. Os cawn gais am ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn rhoi pob ystyriaeth i’ch esboniad, ond ni allwn roi sicrwydd y bydd modd cadw cyfrinachedd ym mhob amgylchiad. Ni fyddwn yn ystyried bod ymwadiad ynghylch cyfrinachedd a gynhyrchir yn awtomatig gan eich system TG yn gais am gyfrinachedd ar ei ben ei hun.

Gellir cyhoeddi neu ddatgelu’r holl wybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn unol â deddfwriaeth ar yr hawl i weld gwybodaeth (yn bennaf, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 1998 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Topics